About Me

Cardiff / Caerdydd, Wales / Cymru, United Kingdom
Working for better public engagement in Welsh public services. Gweithio ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gwell yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymreig.

Wednesday 20 July 2011

Multimedia tools for engagement / Dulliau amlgyfrwng ar gyfer ymgysylltiad

Ryan Heeger of CLIC ran this workshop to give participants an understanding of interactive multimedia, using CLIConline.

Ryan introduced the CLIC website and their social networking websites and discussed their role within participation and as multimedia tools. Participants were shown how CLIC’s site content was driven by the needs of young people as they submit their own articles and views. An example of this are the CLICrants, which enable them to share their rants with the world any topic.

Participants then uploaded their own content individually or in pairs to CLIC in real time and shared links through CLIC’s Facebook and Twitter to maximise the potential audience of the article. Caerphilly Youth Forum uploaded a video of the theatre production which raised awareness of raise awareness of the issue of peer pressure with relation to drugs and alcohol.


Fe wnaeth Ryan Heeger o CLIC rhedeg y gweithdy yma i roi dealltwriaeth o ddulliau amlgyfrwng rhyngweithiol i gyfranogwyr trwy ddefnyddio CLICarlein.

Cyflwynodd Ryan wefan CLIC a’i wefannau rhyngweithio cymdeithasol a thrafododd eu rôl  o fewn cyfranogaeth ac fel dulliau amlgyfrwng. Dangoswyd sut roedd cynnwys gwefan CLIC yn cael ei siapio gan bobl ifanc a’i anghenion gan fod nhw’n cyflwyno’u herthyglau a’u barn eu hunain. Edrychodd y grŵp ar rantiauCLIC, sy’n galluogi nhw i rannu eu rantiau gyda’r byd ar unrhyw bwnc.

Fe uwchlwythodd cyfranogwyr eu cynnwys eu hun i CLIC yn unigol neu mewn parau yn amser real a rhannwyd dolenni trwy Facebook a Twitter CLIC er mwyn uchafu cynulleidfa posib yr erthygl. Fe wnaeth Fforwm Ieuenctid Caerffili uwchlwytho fideo o gynhyrchiad theatr i godi ymwybyddiaeth o’r pwysau gan gyfoedion pan ddaw at gyffuriau ac alcohol.

No comments:

Post a Comment