About Me

Cardiff / Caerdydd, Wales / Cymru, United Kingdom
Working for better public engagement in Welsh public services. Gweithio ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gwell yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymreig.

Wednesday 7 September 2011

Achievement Gallery / Yr Oriel Llwyddiant

On the last afternoon of the All Wales Residential Participation Network we held a resource sharing session, where participants drew a method they’d used for civil engagement and wrote what was good or bad about the method around the edges of the picture.

We tried our best to collate everyone's contributions, but if you notice that yours is missing please let us know and we’ll be happy to add it to this blog.

Ar brynhawn olaf Rhwydwaith Cyfranogi Preswyl Cymru Gyfan cynhaliwyd sesiwn rhannu adnoddau, lle gwnaeth cyfranogwyr dynnu llun o ddull ymgysylltu a ddefnyddiwyd ganddynt ac ysgrifennu beth oedd yn dda neu’n wael am y dull o amgylch y llun.

Gwnaethom ein gorau i gasglu cyfraniadau pawb, ond os sylweddolwch fod eich un chi yn eisiau rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus i’w ychwanegu at y blog hwn.

A-Frame or Blackboard / Ffram-A neu Fwrdd Du
  • This can be used to clearly advertise engagement activities.
  • It draws attention to specific actions.
  • It can give news, notices of meeting and consultation events, or provide feedback.

  • Gellid defnyddio hwn i hysbysebu gweithgareddau ymgysylltu yn glir.
  • Mae’n tynnu sylw at gamau penodol.
  • Mae’n gallu rhoi newyddion, hysbysiadau am gyfarfodydd a digwyddiadau ymgynghori, neu ddarparu adborth.
Ballot / Pleidlais ddirgel
  • A ballot can be used to gain consensus from residents on issues e.g. a change to laundry services.
  • A space for comments can be provided for qualitative data.
  • If there are a minority of very vocal residents, this can give others the chance to feed in their comments and get the major service change they want.

  • Gellir defnyddio pleidlais ddirgel i feithrin consensws gan drigolion ar faterion e.e. newid i wasanaethau golchi dillad.
  • Gellir rhoi lle i sylwadau ar gyfer data ansoddol.
  • Os oes lleiafrif o drigolion llafar iawn, gall hwn rhoi cyfle i eraill nodi eu sylwadau a sicrhau’r newid mawr mewn gwasanaethau maent ei eisiau.

Body in the Box / Corff yn y Blwch
  • Make a life sized outline of a person, with their qualities on the inside and tasks or environment on the outside.
  • It can be used for job descriptions or to highlight barriers.

  • Amlinellwch gorff person ar bapur, gyda’i rhinweddau tu fewn a thasgau neu amgylchedd tu allan.
  • Gall cael ei ddefnyddio ar gyfer disgrifiadau swydd neu i amlygu rhwystrau.
Bron Afon Tidy Kids / Plant Taclus Bron Afon
  • This was a 6 week project with primary school children.
  • The project developed an information pack and report cards.
  • Through this scheme a relationship was built with the school.
  • Community caretakers now call into the school every month, which means it has a long term effect.
  • Certificates and small gifts can be used to encourage participation.

  • Roedd hwn yn brosiect 6 wythnos gyda phlant ysgolion cynradd.
  • Datblygwyd pecyn gwybodaeth ac adroddiadau drwy’r prosiect.
  • Drwy’r cynllun hwn cafodd perthynas ei meithrin gyda’r ysgol.
  • Mae gofalwyr cymunedol bellach yn galw yn yr ysgol bob mis, sy’n golygu bod ganddo effaith hirdymor.
  • Gellir defnyddio tystysgrifau a rhoddion bach i’w hannog i gymryd rhan.

Café / Caffi
  • This provides an informal and relaxed environment.
  • Events should be accessible and open to anyone.
  • They can be time consuming to plan.
  • Everyone must have an equal voice.

  • Mae hwn yn cynnig awyrgylch anffurfiol a hamddenol.
  • Dylai digwyddiadau fod yn hygyrch ac yn agored i bawb.
  • Gallant gymryd amser i’w cynllunio.
  • Rhaid i bawb gael llais cyfartal.

Community Event / Digwyddiad Cymunedol
  • A consultation activity can be tagged on to a community event (e.g. turning on of Christmas lights), which does not take up the time extra time of participants.
  • It can include a variety of stalls, which can make it fun and a great opportunity to gather feedback.
  • There can be free tea, coffee, biscuits and marshmallows offered on the condition that people answer questions.
  • It should be informal and there is no need to use questionnaires, which may put people off.
  • NPT Homes held a picnic event on a beach, which included numerous stalls.
  • A chance to showcase feedback can be included – ‘You said, what we do, what we did’
  • It is fun.
  • If it rains it can limit attendance!

  • Gellir cysylltu gweithgaredd ymgynghori i ddigwyddiad cymunedol (e.e. cynnau goleuadau Nadolig), nad yw’n cymryd rhagor o amser y cyfranogwyr.
  • Gall gynnwys amrywiaeth o stondinau, sy’n ei gwneud yn hwyl ac yn gyfle gwych i gasglu adborth.
  • Gellir cynnig te, coffi, bisgedi a marshmalows am ddim ar yr amod bod pobl yn ateb cwestiynau.
  • Dylai fod yn anffurfiol ac nid oes angen defnyddio holiaduron, a allai ddigalonni pobl.
  • Cynhaliodd NPT Homes ddigwyddiad picnic ar y traeth, oedd yn cynnwys nifer o stondinau.
  • Gellir cynnwys cyfle i ddangos adborth - ‘Beth ddywedoch, beth a wnawn, beth a wnaethom’
  • Mae’n hwyl.
  • Os yw’n bwrw glaw bydd llai o bobl yn dod!

Consensus Building / Creu Consensws
  • An Ideas Storm can be held where people are asked ‘What makes a good or bad meeting?’
  • These ideas are then collated from existing examples and people are asked ‘Which of these take part in your teams?’
  • These ideas are then subjected to a consensus building exercise, which in this case resulted in a draft code of conduct, which was subsequently adopted by the organisation.

  • Gellir cynnal sesiwn Casglu Syniadau lle gofynnir y cwestiwn ‘Beth sy’n gwneud cyfarfod da neu wael?’
  • Wedyn, caiff y syniadau hyn eu casglu o enghreifftiau presennol a gofynnir i bobl ‘P’un o’r rhain sy’n cymryd rhan yn eich timau?’
  • Mae’r syniadau hyn wedyn yn desun ymarfer creu consensws, a arweiniodd at god ymddygiad drafft yn yr achos hwn, a fabwysiadwyd gan y mudiad maes o law.

Digital Stories / Storïau Digidol
  • These were used with Caerphilly Youth Forum.
  • Art work was developed by the youth group.
  • It was featured on Aneurin Bevan Health Board and Caerphilly County Borough Council’s websites.
  • Breaking Barriers, a social enterprise project, helped people develop their own stories.

  • Defnyddiwyd y rhain gyda Fforwm Ieuenctid Caerffili.
  • Datblygwyd gwaith celf gan y grŵp ieuenctid.
  • Cafodd ei gynnwys ar wefannau Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Gwnaeth Chwalu’r Rhwystrau, prosiect menter gymdeithasol, helpu pobl i ddatblygu eu storïau eu hunain.

DVD
  • A group of young people made a DVD to explain about a service from their perspective.
  • The DVD focused on issues that were of interest to young people.
  • It built their confidence and empowered those that produced the DVD.
  • A DVD was also produced by young people for the Eisteddfod in Blaenau Gwent.
  • They collated stories from the last time the Eisteddfod was in the area.
  • It built intergenerational links within the community.
  • It also increased the young people’s awareness of their Welsh Heritage.
  • It empowered them, developed their skills, confidence and aspirations.

  • Gwnaeth grŵp o bobl ifanc DVD i egluro gwasanaeth o’u safbwynt hwy.
  • Roedd y DVD yn canolbwyntio ar faterion oedd o ddiddordeb i bobl ifanc.
  • Roedd wedi codi hyder a grymuso’r rheini oedd wedi cynhyrchu’r DVD.
  • Cafodd DVD ei greu hefyd gan bobl ifanc ar gyfer yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent.
  • Casglwyd storïau o’r tro diwethaf i’r Eisteddfod fod yn yr ardal.
  • Roedd wedi meithrin cysylltiadau rhwng cenedlaethau yn y gymuned.
  • Roedd hefyd wedi cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o’u Treftadaeth Gymreig.
  • Gwnaeth eu grymuso, datblygu eu sgiliau, hyder a dyheadau.

Excellence Network / Rhwydwaith Rhagoriaeth
  • Conwy County Council developed an individual visioning map, asking people ‘What do you want?’, ‘Who is going to help you to get there?’, ‘What steps do you need to get there?’, and ‘What might stop you?’
  • It worked well with adults with learning disabilities.
  • It is labour intensive.

  • Gwnaeth Cyngor Sir Conwy ddatblygu map llunio gweledigaeth unigol, gan ofyn i bobl ‘Beth rydych eisiau?’, ‘Pwy sy’n mynd i’ch helpu i gyrraedd yno?’, ‘Pa gamau sydd eu hangen archoch i gyrraedd yno?’, a ‘Beth allai eich stopio?’
  • Gweithiodd yn dda gydag oedolion ag anableddau dysgu.
  • Mae’n waith llafurus.

Focus Groups / Grwpiau Ffocws
  • CSSIW use regular focus groups to get feedback from people who use social care.
  • They provide a crèche, transport and refreshments.
  • Attendees provide feedback on an ongoing basis.

  • Mae AGGCC yn defnyddio grwpiau ffocws yn rheolaidd i gael adborth gan bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol.
  • Maent yn darparu crèche, trafnidiaeth a lluniaeth.
  • Mae’r rhai sy’n mynychu’n rhoi adborth yn barhaus.

Gardening Sessions / Sesiynau Garddio
  • Gardening activities were found to be a great way of starting discussions between people.
  • A garden and tools are needed.
  • It stimulated an interest in gardening amongst teenagers and it was also a good team building activity.
  • It is not for the very disabled.

  • Daethpwyd i’r casgliad bod gweithgareddau garddio yn ffordd wych o ddechrau trafodaethau rhwng pobl.
  • Mae angen gardd ac offer.
  • Ysgogodd ddiddordeb mewn garddio ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau ac roedd hefyd yn weithgaredd adeiladu tîm da.
  • Nid yw’n addas ar gyfer pobl sy’n anabl iawn.

Go to Local Places / Ewch i Leoedd Lleol
  • You can leave information in places for people to pick up, as well as to go to people rather than asking them to come to you.
  • These places can include supermarkets or hospitals.
  • Questionnaires can be used if necessary.
  • You can also take groups to local places, especially groups of service users that can point out issues that they have accessing local amenities.

  • Gallwch adael gwybodaeth mewn lleoedd i bobl ei chasglu, yn ogystal â mynd at bobl yn hytrach na gofyn iddynt ddod atoch chi.
  • Gall y lleoedd hyn gynnwys archfarchnadoedd neu ysbytai.
  • Gellir defnyddio holiaduron os oes angen.
  • Gallwch hefyd fynd â grwpiau i leoedd lleol, yn arbennig grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau a all nodi problemau maent yn eu cael wrth gael gafael ar gyfleusterau lleol.

Graffiti Wall / Wal Graffiti
  • This is a space where people can put their random thoughts and ideas during the session.
  • It frees up the thought process so that people can express themselves.
  • It is anonymous and can be just a space on a wall where people can place post-its.

  • Dyma le i bobl nodi eu meddyliau a syniadau ar hap yn ystod y sesiwn.
  • Mae’n rhyddhau’r broses o feddwl fel y gall pobl fynegi eu hunain.
  • Mae’n ddienw a gall fod mor syml â lle ar wall le gall pobl roi nodiadau post-it.

Informal Chats and Meetings / Sgyrsiau a chyfarfodydd anffurfiol
  • These are good when working with elderly people.
  • Tea and coffee can be used to get people in through the door.
  • They can be used to focus on needs of individuals or group discussions.
  • They should take place in informal locations such as in village halls.
  • The facilitator can give a short introduction to start the meeting, but should not be so formal as to be the chair for the session.
  • All that is needed is a room, chairs, smiles and refreshments.
  • People tend to be more open, but not everyone is always prepared to talk.
  • There should certainly be no presentations or PowerPoint.
  • It gives people the opportunity to meet each other.
  • They should be inclusive and open to all – a space for people to be relaxed.
  • Events should be based around the needs of the stakeholder – no agenda should be forced on them.
  • Language should be clear and easy to understand.
  • They can provide a level playing field – no ‘them and us’, which can enable people to be more honest.
  • You can gather lots of information and they can provide a great opportunity to network.

  • Mae’r rhain yn dda wrth weithio gyda phobl hŷn.
  • Gellir cynnig te a choffi i gael pobl drwy’r drws.
  • Gellir eu defnyddio i ganolbwyntio ar anghenion unigolion neu drafodaethau grŵp.
  • Dylid eu cynnal mewn lleoliadau anffurfiol fel neuaddau pentref.
  • Gall yr hwylusydd roi cyflwyniad byr ar ddechrau’r cyfarfod, ond ni ddylai fod mor ffurfiol â chadeirio’r sesiwn.
  • Y cyfan sydd ei angen yw ystafell, cadeiriau, gwenau a lluniaeth.
  • Mae pobl yn dueddol o fod yn fwy agored, ond nid yw pawb yn barod i siarad bob amser.
  • Yn bendant, ni ddylid cael unrhyw gyflwyniadau neu PowerPoint.
  • Mae’n rhoi’r cyfle i bobl gwrdd â’i gilydd.
  • Dylent fod yn gynhwysol ac yn agored i bawb - lle i bobl ymlacio.
  • Dylai digwyddiadau fod yn seiliedig ar anghenion y rhanddeiliad - ni ddylid gorfodi agenda arnynt.
  • Dylai’r iaith fod yn glir ac yn hawdd ei deall.
  • Gallant roi chwarae teg i bawb - dim ‘ni a nhw’, a all ganiatáu pobl i fod yn fwy onest.
  • Gallwch gasglu llawer o wybodaeth a gallant fod yn gyfle gwych i rwydweithio.

Luggage Label Comments / Sylwadau ar Labeli Bagiau
  • People can tie comments they make on to garden mesh, trellis or fence to leave messages about their experience, ideas or changes they’d like to see.
  • It is visual and enables service users to see other people’s ideas.
  • It is cheap and easy to make.
  • It is anonymous.
  • It can be used to make serious or funny points, and it is easy to remove offensive comments made in a public space.

  • Gall pobl glymu eu sylwadau ar ffens gardd er mwyn gadael negeseuon am eu profiad, syniadau neu newidiadau yr hoffent eu gweld.
  • Mae’n weladwy ac yn galluogi defnyddwyr gwasanaethau i weld syniadau pobl eraill.
  • Mae’n rhad ac yn hawdd ei wneud.
  • Mae’n ddienw.
  • Gellir ei ddefnyddio i wneud sylwadau difrifol neu ddoniol, ac mae’n hawdd cael gwared ar sylwadau sarhaus mewn lle cyhoeddus.

Multi-method / Aml-ddull
  • This can be useful as it enables people to voice their opinion however they please.
  • This was used with people with learning disabilities.
  • Methods included pictures, easy read questionnaires and videos.
  • A traffic light system to rank importance.
  • Parents were also included.

  • Gall hwn fod yn ddefnyddiol gan ei fod yn galluogi pobl i leisio’u barn ym mha bynnag ffordd y dymunant.
  • Defnyddiwyd hwn gyda phobl ag anableddau dysgu.
  • Roedd y dulliau yn cynnwys lluniau, holiaduron oedd yn hawdd i’w darllen a fideos.
  • Defnyddiwyd system goleuadau traffig i ddangos pwysigrwydd.
  • Cafodd y rheini hefyd eu cynnwys.

Newsletters / Cylchlythyron
  • One magazine was put together by a Client Editorial Panel Easy Read Group.
  • It was client owned – they submitted articles, they focussed on their issues.
  • It was an educational experience for those taking part.
  • It could provide feedback and survey results to clients.
  • Another organisation used a newsletter to gather information for service users.
  • The editorial team were facilitated by paid staff to work on the magazine and build their skills.
  • Another group used it to empower young volunteers.
  • It included their experiences and opinions.
  • It gave young people the opportunity to volunteer and to source information for it.
  • It was circulated to youth groups and clubs, schools, colleges etc.
  • The Cardiff Parent Network Newsletter is led by the parents, who have ownership.
  • It needs to be facilitated – not fully participative.
  • It is a great example of partnership working.

  • Cafodd un cylchgrawn ei lunio gan Grŵp Hawdd ei Darllen Panel Golygyddol Cleientiaid.
  • Roedd yn eiddo i’r cleientiaid - roeddent yn cyflwyno erthyglau, roeddent yn canolbwyntio ar eu materion.
  • Roedd yn brofiad addysgol i’r rheini oedd yn cymryd rhan.
  • Gallai ddarparu adborth a chanlyniadau arolygon i gleientiaid.
  • Defnyddiodd fudiad arall gylchlythyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. 
  • Hwyluswyd y tîm golygyddol gan staff cyflogedig i weithio ar y cylchgrawn a datblygu eu sgiliau.
  • Defnyddiodd grŵp arall hwn i rymuso gwirfoddolwyr ifanc.
  • Roedd yn cynnwys eu profiadau a’u barn.
  • Rhoddodd y cyfle i bobl ifanc wirfoddoli a chael gwybodaeth ar ei gyfer.
  • Fe’i hanfonwyd at grwpiau a chlybiau ieuenctid, ysgolion, colegau ac ati.
  • Caiff Cylchlythyr Rhwydwaith Rhieni Caerdydd ei arwain gan y rhieni, sy’n berchen arno.
  • Mae angen iddo gael ei hwyluso - nid yn hollol gyfranogol.
  • Mae’n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth.

Open Door Policy / Polisi Drws Agored
  • This enables people to come to you at their convenience.
  • It needs you to be friendly and approachable, and for people to feel that they will be heard.

  • Mae hyn yn caniatau pobl i ddod atoch pan mae’n gyfleus.
  • Mae angen iddo fod yn gyfeillgar ac yn hawdd ei gyrraedd, ac i bobl deimlo y byddant yn cael eu clywed.

Pants and Tops / Trôns a Thopiau
  • Participants write comments.
  • They write what they think is good on tops, and what they think is bad on pants.
  • To evaluate satisfaction these comments are pegged on a washing line.

  • Mae cyfranogwr yn nodi sylwadau.
  • Byddant yn ysgrifennu’r hyn maent yn credu sy’n dda ar dopiau, a’r hyn maent yn credu sy’n wael ar y trôns.
  • Er mwyn gwerthuso boddhad caiff y sylwadau hyn eu hongian ar lein ddillad.

Picture Perfect / Y Darlun Perffaith
  • Participants capture their likes and dislikes of their community using a camera.
  • It is easy to evaluate, not expensive and very visual.
  • It is informal and everyone can participate.

  • Mae cyfranogwyr yn tynnu lluniau o’u hoff bethau a’u cas bethau yn eu cymuned gan ddefnyddio camera.
  • Mae’n hawdd ei werthuso, nid yw’n ddrud ac mae’n weladwy iawn.
  • Mae’n anffurfiol a gall pawb gymryd rhan.

Problem solved / Datrys problem
  • Lots of people were giving information about problems / complaints.
  • Wrexham County Council organised an event and used the method of a ‘to do list’, by grouping into themes, carers and social workers involved in the process.
  • Positive action was taken, and carers indicated that information was essential.
  • They then developed a carers’ information website at www.wrexham.gov.uk/carers.

  • Cafodd lawer o bobl wybodaeth am broblemau / cwynion.
  • Trefnodd Cyngor Sir Wrecsam ddigwyddiad a defnyddio’r dull ‘rhestr pethau i’w gwneud’, drwy roi themâu mewn grwpiau, gan gynnwys gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol yn y broses.
  • Cafodd camau cadarnhaol eu cymryd, a nododd gofalwyr bod gwybodaeth yn hanfodol.
  • Gwnaethant ddatblygu gwefan gwybodaeth i ofalwyr yn www.wrexham.gov.uk/carers.

Politics Awareness / Ymwybyddiaeth o Wleidyddiaeth
  • An organisation visited groups at their convenience in their own environment and people were provided with information on politics and how they could get involved.
  • Open questions were used to spark debate.

  • Aeth mudiad i ymweld â grwpiau pan oedd yn gyfleus iddynt yn eu hamgylchedd eu hunain a chafodd pobl wybodaeth am wleidyddiaeth a sut y gallent gymryd rhan.
  • Defnyddiwyd cwestiynau agored i ysgogi dadl.

Priority Pyramid / Pyramid Blaenoriaeth

  •  Meddyliwch am un nod yr hoffech ei gyflawni.  Yna, ystyriwch sut rydych eisoes yn barod i gyrraedd y nod.  Yna, ystyriwch y cynlluniau sydd angen i chi eu gwneud i gyrraedd eich nod.
  • Dylech baratoi a chynllunio i gyrraedd eich nodai drwy SMART - Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, ac yn Realistig gydag Amserlen [Specific, Measurable, Achievable, Realistic with a Timeline.]

Quiz / Cwis
  • A quiz can be fun.
  • It’s a good icebreaker and can get people talking.
  • It can be used to gauge what people know about a subject.
  • It can encourage healthy competition between participants.
  • It can wake people up after lunch!
  • Carmarthenshire County Council asked people to vote using Qwizdom.
  • It provided instant feedback, validated existing information and was anonymous.

  • Gall cwis fod yn hwyl.
  • Mae’n ffordd dda o dorri’r iâ ac annog pobl i sgwrsio.
  • Gellir ei ddefnyddio i fesur yr hyn mae pobl yn ei wybod am bwnc.
  • Gall annog cystadleuaeth iach rhwng cyfranogwyr.
  • Gall stopio pobl rhag cysgu ar ôl cinio!
  • Gofynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin i bobl bleidleisio gan ddefnyddio Qwizdom.
  • Cafwyd adborth ar unwaith, dilyswyd gwybodaeth bresennol ac roedd yn ddienw.

Radio
  • A group used hospital radio, which enabled them to reach a captive audience of people within the local hospital.
  • Another group used local radio to reach out to people within a geographical area. They used a question and answer session to respond to queries from the community.
  • They found that it would be best used on an ongoing basis to capture more feedback and raise awareness of the session.

  • Defnyddiodd un grŵp radio ysbyty, a’u galluogodd i gyrraedd cynulleidfa yn yr ysbyty lleol.
  • Defnyddiodd grŵp arall radio lleol i gyrraedd pobl mewn ardal ddaearyddol.  Defnyddiwyd sesiwn holi ac ateb i ymateb i ymholiadau gan y gymuned.
  • Daethpwyd i’r casgliad y byddai’n well ei ddefnyddio’n barhaol i gasglu mwy o adborth a chodi ymwybyddiaeth o’r sesiwn.

School Travel / Teithio i’r Ysgol
  • Pictures were placed around the classroom, with children moving to the pictures that represent different things, including how they travel to school, how they’d like to travel, the most fun way to travel, the least fun way, the safest way and the greenest way.
  • A rope was also used to show strength of opinion of the children.

  • Cafodd lluniau eu gosod o gwmpas yr ystafell ddosbarth, a’r plant yn symud at y lluniau oedd yn cynrychioli gwahanol bethau, yn cynnwys sut maent yn teithio i’r ysgol, sut hoffent deithio, y ffordd sydd mwyaf o hwyl i deithio, y ffordd sydd lleiaf o hwyl i deithio, y ffordd fwyaf diogel, a’r ffordd fwyaf gwyrdd.
  • Cafodd rhaff hefyd ei defnyddio i ddangos pa mor gryf oedd barn plant.

Small Group Work / Gwaith mewn Grŵp Bach
  • Participants can be divided into small groups to encourage those that are too shy or who aren’t confident enough to contribute.
  • It can help to build people’s self-esteem.

  • Gellir rhannu cyfranogwyr i grwpiau bach i annog y rheini sy’n rhy swil neu nad ydynt yn ddigon hyderus i gyfrannu.
  • Gall helpu i godi hunanhyder pobl.

Smiley Faces / Wynebau hapus
Diben
Gwerthuso meintiol mewn grŵp ar gwestiynau ymchwil penodol
Sut     
I ddechrau penderfynwch ar gwestiwn.
Dylai’r cwestiynau cael eu nodi fel datganiadau cadarnhaol o farn y gellid eu gwerthuso fel
  • Cytuno’n llwyr
  • Cytuno
  • Niwtral
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n llwyr
  • Ddim yn gwybod
Sicrhewch fod y cwestiynau’n addas ar gyfer y grŵp - eu bod yn gwybod rhywbeth amdanynt.
Paratowch enghraifft weithiol o flaen llaw i helpu i egluro’r broses.
Paratowch fatrics gwag, gyda’r datganiadau/pynciau i’w gwerthuso, a’r lefelau amrywiol o gytuno neu anghytuno.
Rhowch ddot lliwgar neu wyneb hapus/trist er mwyn gwerthuso pob datganiad.
Dywedwch wrth gyfranogwyr am fod yn ofalus i roi un dot/wyneb hapus/trist, ac un yn unig ym mhob colofn i nodi eu dewis/pleidlais.
Dywedwch wrth gyfranogwyr am bleidleisio fesul un.
Cyfrifwch y canlyniadau ar gyfer pob datganiad.

Amser
Ar ôl penderfynu ar y cwestiynau ymchwil; eglurwch y fethodoleg (5-10 munud);          dylech ganiatáu 15-20 munud ar gyfer pleidleisio a dehongli, yn dibynnu ar nifer y bobl.

Deunydd
Siart troi / taflenni mawr o bapur/lluniau/ pennau ffelt/ dotiau gludiog ar gyfer pob cyfranogwr (un ar gyfer pob cwestiwn)

Cwestiynau Enghreifftiol
Credaf ei fod yn effeithiol oherwydd...

Manteision
Hyblyg: Gellir ei atgynhyrchu ar raddfa fawr ar gyfer achlysuron safonol.
Mae’n rhoi asesiad tryloyw a chyflym o werthusiad y grŵp o gwestiynau ymchwil penodol.
Mae pob cyfranogwr yn cymryd rhan.
Meintiol - hawdd i’w ddadansoddi a’i ddehongli.
Mae’n darparu canlyniadau yn syth.

Anfanteision
Mae angen ei egluro yn drylwyr.
Os na fydd cyfranogwyr yn ofalus am roi un dot yn unig ym mhob colofn, ni fydd y canlyniadau yn ddilys.

Awgrymiadau
Efallai bydd pobl yn rhoi eu dotiau mewn mwy nag un golofn, neu’n methu colofn, ac felly ni fydd y canlyniadau yn ddilys.
Er mwyn osgoi’r broblem hon gallwch roi dot lliw gwahanol/gwahanol lythyren i bobl, fel y gallwch weld pwy sydd wedi gwneud camgymeriad a gwahodd y person hwnnw i ail-bleidleisio.


Speed Dating / Clicio Cyflym
  • An event was held where young people met police and social services to talk about what they can offer.
  • They received feedback in turn on how they engage with young people.
  • It was informal, fun and young people could give feedback without pressure.
  • Cynhaliwyd digwyddiad lle'r oedd pobl ifanc yn cwrdd â’r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol i siarad am yr hyn gallant gynnig.
  • Cawsant adborth ar sut maent yn ymgysylltu â phobl ifanc.
  • Roedd yn anffurfiol, yn hwyl a gallai pobl ifanc roi adborth heb bwysau.

Sticky Dot Voting / Pleidleisio trwy Ddotiau
  • People place sticky dots next to their preferred options.
  • They have a set number of dots, therefore choices are restricted.
  • It is a visual display, which provokes discussion.
  • In this case, the selected options were then incorporated into a meetings agenda.

  • Mae pobl yn rhoi dotiau gludiog ar eu dewisiadau.
  • Mae ganddynt nifer penodol o ddotiau, felly ceir cyfyngiadau ar eu dewisiadau.
  • Mae’n arddangosfa weledol, sy’n ysgogi trafodaeth.
  • Yn yr achos hwn, cafodd yr opsiynau a ddewiswyd eu cynnwys mewn agenda cyfarfod.

Story Sacks / Sachau Straeon
  • This method is informal.
  • It was found that people talk more about their issues when they are engaged in other activities.
  • It is a creative play activity involving a large cloth bag containing a book with supporting materials.

  • Mae’r dull hwn yn anffurfiol.
  • Daethpwyd i’r casgliad bod pobl yn siarad mwy am eu problemau pan maent yn gwneud gweithgareddau eraill.
  • Gweithgaredd chwarae creadigol ydyw sy’n ymwneud â bag defnydd mawr yn cynnwys llyfr a deunydd ategol.

Story to Time / Stori i Amserlen
  • This method gets people to perform to a timescale.
  • It gets people’s imagination working.
  • There is pressure on groups, and can make people who aren’t confident feel they cannot carry out the task.
  • It is important to be aware of safety issues.

  • Mae’r dull hwn yn gorfodi pobl i berfformio i amserlen.
  • Mae’n ysgogi pobl i ddefnyddio’u dychymyg.
  • Mae pwysau ar grwpiau, a gall wneud i bobl ddihyder deimlo nad ydynt yn gallu gwneud y dasg.
  • Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o faterion diogelwch.

Tape Recorder / Recordydd Tâp
  • It can be used to gather feedback from individuals in a community.
  • It can be used to record conversations in an informal setting.
  • It only provides a small snapshot of opinions.

  • Gellir ei ddefnyddio i gasglu adborth gan unigolion mewn cymuned.
  • Gellir ei ddefnyddio i gofnodi sgyrsiau mewn sefyllfa anffurfiol.
  • Dim ond cipolwg bach o safbwyntiau a geir.

Theatre / Theatr
  • It requires audience participation to put over their ideas.
  • It can be entertaining and it provides lots of scope for laughter!

  • Mae’n rhaid i’r gynulleidfa gymryd rhan i fynegi eu syniadau.
  • Gall fod yn ddifyrrus ac mae’n rhoi cyfle i chwerthin!

The Seeing, Sharing, Learning Tour! / Y Daith i Weld, Rhannu a Dysgu!
  • Participants take a trip to see what needs changing.
  • The trip provides time for people to share ideas on what needs to change and how to approach it.
  • Mae cyfranogwyr yn mynd ar daith i weld beth sydd angen cael ei newid.
  • Mae’r daith yn rhoi amser i bobl rannu syniadau am yr hyn sydd angen cael ei newid a sut i fynd ati i wneud hyn.

Young Parents’ Trip / Taith i Rieni Ifanc
  • The trip can take place to a chosen venue, away from every day life.
  • It can be used to join different hostels and services together to share information and meet other people.
  • It’s a fun activity and it’s a chance for people who use similar services to talk about their experiences.

  • Gall y daith fynd i leoliad o’u dewis, i ffwrdd o fywyd pob dydd.
  • Gellir ei ddefnyddio i uno gwahanol hosteli a gwasanaethau gyda’i gilydd i rannu gwybodaeth a chwrdd â phobl newydd.
  • Mae’n weithgaredd llawn hwyl ac mae’n gyfle i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau tebyg i siarad am eu profiadau.

Welsh Index of Multiple Deprivation / Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • The Welsh Index of Multiple Deprivation can be used to give organisations ideas of specific needs in communities.
  • It enables groups to put together concrete proposals and gain a more focussed response.

  • Gellir defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i roi syniadau i fudiadau o anghenion penodol mewn cymunedau.
  • Mae’n galluogi grwpiau i lunio cynigion cadarn a chael ymateb mwy penodol.