About Me

Cardiff / Caerdydd, Wales / Cymru, United Kingdom
Working for better public engagement in Welsh public services. Gweithio ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gwell yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymreig.

Thursday 4 August 2011

Session 1 methods - How do you engage with…? / Dulliau Sesiwn 1– Sut rydych yn ymgysylltu â …?

Talking Stick
With this method everyone sits in a circle and you have a ‘talking stick’ this can be a stick or any object large enough that it is easily held in the hand, but that everyone can see.  Only the person who is holding the ‘talking stick’ can speak.  When they have finished talking they pass it on to someone else who wants to speak.  You should never pass the ‘talking stick’ around the circle as this can be very scary for people who are shy or nervous.  This is a good way to make sure that everyone else stays quiet and listens while someone talks.  

Informing the Alien
This activity is used when some members of a group feel they are not as well informed as others about a particular issue.  For example, this activity was used in a team building workshop for Rhiwgarn People in Communities Partnership Board as some board members felt they were not as well informed as others about the organisation.  The group is spilt into two groups (you can use a value continuum to do this), one comprising people who feel they know about the issue to be discussed, and the other comprising people who feel they need/want to know more.  The group who feel they know about the issue prepare a short presentation.  In the case of the Rhiwgarn workshop a timeline of the organisation’s history was prepared along with a diagram of the organisational structure.  The group who feel they want to know more discuss what they want to know and prepare questions, while the other group prepares its presentation.  The presentation is then given and questions asked. 

This can be a useful activity when setting up a new team, board, or partnership.  However, you must be careful when asking people to get into the groups, because it is important that the people who want to know more do not feel intimidated or reluctant to say so.  


Daily Round
Either individually, or in pairs or small groups get people to draw a table, with three columns headed time, weekday and weekend.  Down the left-hand column get them to write times of the day.  Then ask them to write down what they do at these times of the day on a typical weekday and weekend in the corresponding columns (see diagram).

Example
Time
Weekday
Weekend
7:30am
Get up
Still asleep
8:30am
Go to work
Get up
12:30pm
Have lunch
Have lunch
5pm
Come home from work
Go shopping
6:30pm
Have dinner
Have dinner
7pm
Watch television
Go out
11pm
Go to bed
Come home & go to bed


The activity will work better if the times and activities are more detailed than those shown in the above table.  Also, you may find it necessary to do separate tables for weekday and weekend as the times may not correspond.  This is a useful activity because it can reveal a lot of information about the people doing it.  It can be used to compare how much work people do, and to reveal what is sometimes referred to as ‘invisible work’, for example, housework and looking after children.  It can also show if there is a need for something in the community.  For example if young people did this exercise and said they spent their weekends hanging around with nothing to do, this may suggest that activities for young people are needed in the community.  This activity can be used as a starting point for discussions about what local people think the community needs.  Lastly, the daily round can reveal a lot about the amount of skills people have and is useful as an icebreaker in a group situation.  You can get people to do a daily round and then report back on how many different ‘jobs’ or ‘skills’ they have.  For example, someone maybe a teacher, but also a parent, a dog walker, a children’s entertainer, a taxi driver (for their children), a community board member, and so on.  It is surprising how many ‘jobs’ people have and can be a real confidence booster.

Mapping

Individual Maps
This activity involves people drawing maps of their local area and marking on places that are important or of interest to them.  It is often easier to first of all engage the person you want to draw the map in conversation and then ask them to draw a map once they have relaxed a little and are mentioning local places.  Many people will say they cannot draw a map if you ask them straight out.  Instead you could ask them where they work, shop, live etc and then ask them to draw that in relation to where you are now. Then continue to talk to them about other issues and continue getting them to mark places they mention onto their map.  The word ‘map’ may not be appropriate as most people associate it with detailed road maps or atlases, therefore it may be better to ask people to draw a diagram of the local area or something similar.

The map itself will provide information about the area and the location of different places of local importance.  It is very important also to listen to what people are saying and perhaps make notes, as this information may be very important with regards to issues to do with the local area and certain places.  This activity can be used almost anyway, as long as you take a clipboard with you!  However, if asking people in the street to draw maps be aware of the fact they may be in a rush.  You could take a photocopied map with you if you are asking people who don’t have a lot of time and ask them to mark on places that are important or of interest to them.   However, it is often more interesting to get people to draw it because the scale and proportion of what they draw can give clues as to important places and issues.

As with transects, this method will highlight places that are important to local people and places you can make contact with them, as well as important local issues.


Group Maps
In order to make a group map stick a number of pieces of flip chart paper together and lay out on a large table, in a room/building which a wide variety of different people visit.  In order to start off the activity it is often a good idea to have a local contact who has good knowledge of the local area.  Ask them to start drawing the rough outlines of a big map of the local area (i.e. main roads, parks and other well-known places in the local area).  Then as people visit the room/building encourage them to come and look at the big map and get them to add to it.  As with the individual maps, encourage people to add things by talking to them about their daily lives, and remember that it is very important not only to get them to draw on the map, but also to listen to what they are saying and record this.  The advantage of this method is that you get automatic checks on the validity of the information provided as if someone draws something which others feel is incorrect they will probably speak out.    This is a very visual method and the larger the better, as it is likely to invoke interest and encourage people to come over and have a look. 

This method again allows you to identify places you can make contact with local people, and the places which are important to local people, along with important local issues.  It is a good idea to encourage a wide range of local people of all ages and backgrounds to draw on the map because you will then be able to discover the opinions of different groups of people. 

NB:  it is important that there is space on all sides of the table for people to stand so that all areas of the map are easily accessible for people to draw and add things.  Also, use thick marker or felt tip pens so that what is drawn is easy to see. 

Snot Man
Do you remember what it was like to be 6 ¾ ? Lots of children that age love gross sounding and smelly things. This method is ideal for children like ‘Horrible Henry’. Using the image of ‘Snot man’ ask the question whatsnot good about…. and ask each participant to write or draw something that is not good about school dinners on a green snot and stick it on the nose of snotman.

Creative arts and graphics
We often find ourselves in situations where words do not come easily to people for a variety of different reasons. New parents who are home for a lot of the time might be lacking in confidence, others might be very chatty and dominate the conversation. To explore the topic you have been given, use the materials (pens, putty, little people, pictures) as a method to explore your answers, without having to use too many words.



Ffon siarad
Mae’r dull hwn yn cynnwys pawb yn eistedd mewn cylch ac mae gennych ‘ffon siarad’ sef ffon neu unrhyw beth sy’n ddigon mawr i’w ddal â llaw, ond y gall pawb ei weld.  Dim ond y person sy’n dal y ‘ffon siarad’ all wneud hynny.  Pan fyddant wedi gorffen siarad byddant yn ei basio at rywun arall sydd eisiau siarad.  Ni ddylech basio’r ‘ffon siarad’ o amgylch y cylch gan fod hwn yn gallu bod yn brofiad ofnus i bobl sy’n swil neu’n nerfus.  Mae hon yn ffordd dda i sicrhau bod pawb arall yn aros yn dawel ac yn gwrando pan fydd rhywun yn siarad.

Hysbysu’r Estron
Defnyddir y gweithgaredd hwn pan fydd rhai aelodau o’r grŵp yn teimlo nad oes ganddynt gymaint o wybodaeth ag eraill ynglŷn â mater penodol.  Er enghraifft, cafodd y gweithgaredd hwn ei ddefnyddio mewn gweithdy adeiladu tîm ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Pobl mewn Cymunedau Rhiwgarn gan fod rhai aelodau’n teimlo nad oedd ganddynt gymaint o wybodaeth ag eraill am y mudiad.  Caiff y grŵp ei rannu’n ddau (gallwch ddefnyddio dilyniant o werth i wneud hyn), bydd un yn cynnwys pobl sy’n teimlo eu bod yn gwybod ynglŷn â’r mater i’w drafod, a’r llall yn cynnwys pobl sy’n teimlo eu bod angen/eisiau gwybod mwy.  Bydd y rhai sy’n teimlo eu bod yn gwybod am y mater yn paratoi cyflwyniad byr.  Yn achos gweithdy Rhiwgarn paratowyd llinell amser o hanes y mudiad ynghyd â diagram o strwythur y mudiad.  Bydd y grŵp sy’n teimlo eu bod am wybod rhagor yn trafod yr hyn yr hoffent ei wybod a pharatoi cwestiynau, tra bod y grŵp arall yn paratoi’r cyflwyniad.  Caiff y cyflwyniad ei wneud ac yna gofynnir y cwestiynau.

Gall hwn fod yn weithgaredd defnyddiol pan fyddwch yn sefydlu tîm, bwrdd neu bartneriaeth newydd.  Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn ofalus pan fyddwch yn gofyn i bobl fynd i grwpiau, oherwydd mae’n bwysig nad yw’r bobl sydd am wybod mwy yn dychryn neu’n amharod i ddweud hynny.

Y Drefn Ddyddiol
Naill ai’n unigol, neu mewn parau neu grwpiau bach, gofynnwch i bobl lunio tabl, gyda thair colofn o dan y teitlau amser, yr wythnos, y penwythnos.  Yn y golofn chwith gofynnwch iddynt nodi amserau’r dydd.  Yna gofynnwch iddynt ysgrifennu’r hyn maent yn gwneud ar yr amseroedd hyn ar ddydd arferol yn ystod yr wythnos neu’r penwythnos yn y colofnau cyfatebol (gweler y diagram).

Enghraifft
Amser
Yr Wythnos
Y Penwythnos
7:30am
Codi
Dal yn cysgu
8:30am
Mynd i’r gwaith
Codi
12:30pm
Cinio
Cinio
5pm
Dod adre o’r gwaith
Mynd i siopa
6:30pm
Swper
Swper
7pm
Gwylio’r teledu
Mynd allan
11pm
Mynd i’r gwely
Dod adref a mynd i’r gwely

Bydd y gweithgaredd yn gweithio’n well os bydd yr amseroedd a’r gweithgareddau’n fanylach na’r rhai a ddangosir yn y tabl uchod.  Hefyd, efallai y gwelwch fod angen tablau ar wahân ar gyfer dyddiau’r wythnos a’r penwythnos gan na fydd yr amseroedd yn cyfateb o bosibl.  Mae hwn yn weithgaredd defnyddiol gan ei fod yn dangos llawer o wybodaeth am y bobl sy’n ei gwneud.  Gellir ei ddefnyddio i gymharu faint o waith y mae pobl yn ei wneud, a dangos yr hyn y cyfeirir yn aml ato fel ‘gwaith anweledig’, er enghraifft, gwaith tŷ a gofalu am y plant.  Gall hefyd ddangos os oes angen rhywbeth yn y gymuned.  Er enghraifft pe bai pobl ifanc yn gwneud yr ymarfer hwn gan ddweud eu bod yn treulio eu penwythnosau yn gwneud dim, gallai hyn awgrymu bod angen gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn y gymuned.  Gellir defnyddio’r gweithgaredd hwn fel pwynt cychwyn trafodaeth am yr hyn mae’r bobl leol yn credu sydd ei angen ar y gymuned.  Yn olaf, gall y drefn ddyddiol ddangos llawer am nifer y sgiliau sydd gan bobl ac mae’n ddefnyddiol i dorri’r iâ mewn sefyllfa grŵp.  Gallwch ofyn i bobl nodi eu trefn ddyddiol ac yna adrodd ar faint o wahanol ‘swyddi’ neu ‘sgiliau’ sydd ganddynt.  Er enghraifft, gall rhywun fod yn athro, ond hefyd yn rhiant, yn mynd â chŵn am dro, yn diddanu plant, yn yrrwr tacsi (ar gyfer eu plant), yn aelod o fwrdd cymunedol, ac ati.  Mae’n syndod faint o ‘swyddi’ sydd gan bobl, a gall roi hwb mawr i’w hyder.

Mapio

Mapiau Unigol
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys pobl yn llunio mapiau o’u hardal leol gan nodi lleoedd sy’n bwysig neu o ddiddordeb iddynt.  Yn aml, mae’n haws siarad â’r person yn gyntaf, ac yna unwaith eu bod wedi ymlacio ychydig ac yn siarad am leoedd lleol, gofynnwch iddynt lunio map.  Bydd llawer o bobl yn dweud nad ydynt yn gallu llunio map, os gofynnwch iddynt yn uniongyrchol.  Yn hytrach, gallech ofyn iddynt ble maent yn gweithio, siopa, byw ac ati ac yna gofynnwch iddynt lunio hynny mewn perthynas â lle y maent ar hyn o bryd.  Yna, parhewch i siarad â hwy am faterion eraill gan nodi’r lleoedd maent yn eu crybwyll ar y map.  Efallai nad yw’r gair ‘map’ yn addas gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu hyn â map ffyrdd manwl neu atlasau, felly gall fod yn well gofyn i bobl lunio diagram o’r ardal leol neu rywbeth tebyg.

Bydd y map ei hun yn rhoi gwybodaeth am yr ardal a lleoliad gwahanol leoliadau o bwysigrwydd lleol.  Mae hefyd yn bwysig iawn i wrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud ac efallai gwneud nodiadau, gan y gall y wybodaeth hon fod yn bwysig iawn o ran materion sy’n ymwneud â’r ardal leol a lleoedd penodol.  Gellir defnyddio’r gweithgaredd hwn unrhyw le, cyhyd ag y bod gennych glipfwrdd!  Fodd bynnag, os byddwch yn gofyn i bobl ar y stryd i lunio mapio, cofiwch y gallant fod ar frys.  Gallech fynd â llungopi o fap gyda chi os ydych yn gofyn i bobl heb lawer o amser a gofynnwch iddynt nodi lleoedd sy’n bwysig neu o ddiddordeb iddynt.  Fodd bynnag, gan amlaf mae’n fwy diddorol i annog pobl i lunio un eu hunain gan y gall graddfa a lleoliad yr hyn y maent yn ei lunio rhoi cliwiau am leoedd a materion pwysig.

Yn yr un modd â thrawsluniau , bydd y dull hwn yn amlygu lleoedd sy’n bwysig i bobl leol a lleoedd y gallwch gysylltu â hwy, yn ogystal â materion lleol pwysig.

Mapiau grŵp
Er mwyn gwneud map mewn grŵp rhowch nifer o ddarnau o bapur siart troi gyda’i gilydd a’u gosod ar fwrdd mawr, mewn ystafell/adeilad sy’n cael amrywiaeth eang o ymwelwyr.  Er mwyn dechrau’r gweithgaredd mae’n syniad da cael cyswllt lleol sydd â gwybodaeth dda o’r ardal leol.  Gofynnwch iddynt ddechrau llunio amlinelliadau bras o fap mawr o’r ardal leol (h.y. y prif ffyrdd, parciau a lleoedd amlwg eraill yn yr ardal leol).  Yna wrth i bobl fynd i’r ystafell/adeilad anogwch hwy i ddod i edrych ar y map mawr a gofynnwch iddynt ychwanegu ato.  Fel gyda’r mapiau unigol, dylech annog pobl i ychwanegu ato drwy siarad am eu bywydau pob dydd, a chofiwch ei bod yn bwysig eich bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedant a chofnodi hyn yn ogystal â’u hannog i nodi ar y map.  Mantais y dull hwn yw eich bod yn cael gwiriadau awtomatig ar ddilysrwydd y wybodaeth a ddarperir gan y bydd pobl yn dweud wrthych os bydd rhywun wedi nodi rhywbeth yn anghywir.  Mae hwn yn ddull gweledol iawn, a gorau oll os yw’n fawr, gan y bydd yn debygol o ddenu sylw ac annog pobl i ddod i gael golwg.

Eto, mae’r dull hwn yn eich galluogi i nodi lleoedd lle gallwch gael cyswllt â phobl leol, a’r lleoedd sy’n bwysig i bobl leol, ynghyd â materion lleol pwysig.  Mae’n syniad da i annog ystod eang o bobl o bob oed a chefndir i nodi ar y map gan y byddwch wedyn yn gallu darganfod safbwyntiau gwahanol grwpiau o bobl.

DS:  Mae’n bwysig bod lle bob ochr y bwrdd i bobl sefyll fel ei bod yn hawdd  cyrraedd pob rhan o’r map ar gyfer nodi ac ychwanegu pethau.  Hefyd, defnyddiwch farciwr trwchus neu bin ffelt fel ei bod yn hawdd gweld popeth.

Y Dyn Snot
Ydych chi’n cofio sut brofiad yw bod yn 6 ¾?    Mae llawer o bobl yr oed hwn yn dwlu ar bethau sy’n swnio ac yn arogli’n rhyfedd.  Mae’r dull hwn yn ddelfrydol ar gyfer plant fel ‘Henri Helynt’.  Gan ddefnyddio llun o’r Dyn Snot, gofynnwch y cwestiwn beth sy’n wael am… a gofynnwch i bob cyfranogwr nodi rhywbeth gwael am fwyd ysgol ar snot gwyrdd a’i sticio ar drwyn y dyn snot.

Celf greadigol a graffeg
Yn aml, cawn ein hunain mewn sefyllfaoedd lle nad yw’r geiriau’n llifo’n hawdd i rai pobl am amrywiaeth o resymau.  Efallai bod gan rieni newydd sydd gartref am lawer o amser ddiffyg hyder, ac efallai y bydd eraill yn siaradus iawn ac yn dominyddu sgwrs.  Er mwyn ystyried y testun sydd gennych, defnyddiwch ddeunyddiau (pennau, pwti, pobl bach, lluniau) fel dull i ystyried eich atebion, heb orfod defnyddio gormod o eiriau.